37.5K
Downloads
156
Episodes
Mae Hywel Pitts, Iwan Pitts ac Elin Gruffydd yn cyflwyno Podpeth, Y Podlediad Cymraeg - cyfres gyfredol, goeglyd a ddadleuol.
Episodes

Nov 29, 2022
Nov 29, 2022
32 min
Mae'r criw yn trafod gêm olaf Cymru yng Nghwpan y Byd 2022 ar ôl iddynt golli 3-0 i Loegr, wrth i arbrawf Iwan i wneud podlediad yn defnyddio 'mond negeseuon llais fethu'n llwyr.
Sgarff Dafydd Iwan, Geraint Løvgreen, ac annwyd Elin.
Mae Hywel yn plygio ei daith Cabarela (sydd wedi gwerthu allan), ac mae Iwan yn plygio ei rhaglen radio ar Spotify - The Internet Radio Tapes.
Bydd Podpeth yn nôl yn fuan...

Nov 26, 2022
Nov 26, 2022
39 min
Mae Iwan a Spurs Mel yn trafod ail gêm Cymru yng Nghwpan y Byd 2022 wrth iddynt golli 2-0 i Iran. Mae Mel yn darllen barddoniaeth Ryan Giggs, ac yn gofyn y cwestiwn - Pwy oedd Hitler?
Hefyd, cawn hanes sioe Spotify newydd Iwan (The Internet Radio Tapes).
Mae Hywel ar ei ffordd i gig ym Mryngwran - Bragdy’r Beirdd, ac yn sôn am ei gigs ar y gweill.

Nov 22, 2022
Nov 22, 2022
30 min
Mae Iwan a Spurs Mel yn trafod gêm gyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd ers 1958, ac yn trafod Qatar, caneuon Cwpan y Byd, Covid, Tudur Owen ar Gogglebocs, a Matt Hancock.
Mae Hywel wedi cael lot gormod i yfed ac yn gohebu o Neuadd y Farchnad.

Jul 26, 2022
Jul 26, 2022
37 min
"'Dyn nhw'n gneud microwave a ffrij? Mewn un?"
Mae syniad diweddara' @SpursMel yn swnio'n eithaf tebyg i syniad sy'n bodoli'n barod. Mae Hywel, Iwan ac Elin yn ymateb.

Jul 19, 2022

Jul 12, 2022

Jun 28, 2022

Jun 21, 2022

Jun 14, 2022
Jun 14, 2022
40 min
"Dw i 'di g'neud tri sgript bach..."
Mae @SpursMel i fyny i'w hen driciau gyda'i Syniadad wythnos yma - ond diolch byth mae o hefyd wedi bod yn brysur yn sgwennu sgriptiau. Mae Hywel, Elin ac Iwan yn trio'u gorau i ddadansoddi.

Jun 7, 2022

May 31, 2022

May 24, 2022

May 17, 2022
May 17, 2022
29 min
"Wel, ma siŵr fyddan nhw'n monstrosities"
Iwan, Hywel ac Elin sy'n rhoi adborth i syniad diweddaraf @SpursMel.

Dec 21, 2021
Dec 21, 2021
1hr 8 min
Yr awdur teledu a'r cerddor arbennig Rhys Gwynfor sydd yn ymuno am sgwrs i drafod 'Un Nos Ola Leuad', ond tro yma yr addasiad ffilm o 1991 gan Gwenlyn Parry ac Endaf Emlyn o nofel Caradog Pritchard. Nadolig Llawen!

Nov 30, 2021
Nov 30, 2021
37 min
A wnaeth lun o fachgen yn crïo achosi tai i losgi lawr yn yr 80au? Pa gyffes gythryblus wnaeth goths Llandaf rhannu gyda Hywel? Pam bod y brif ddinas mor sbwci? Dyna dan ni’n drafod yn bennod yma o #Odpeth!

Nov 23, 2021
Nov 23, 2021
34 min
Heddiw, mae criw Podpeth yn trafod aliens, hoff takeaways a pwy dylai'r Ddaear danfon fel cynrychiolydd i gyfarfod bywyd arall-fydol.

Nov 16, 2021
Nov 16, 2021
36 min
Yda chi wedi clywed am Bwgan Pant-Y-Wennol? Na ni! Yn y bennod yma o Odpeth, mae'r criw yn trafod Pen Llŷn, pronouns, poltergeists a property developers.

Nov 9, 2021
Nov 9, 2021
27 min
Yn y bennod hon o Odpeth, cawn hanes ddyn (anhysbys) o Sir Benfro sydd wedi cael secs efo ghost. Ond be ddigwyddodd go wir? Iwan, Hywel ac Elin sy'n trafod...

Nov 2, 2021
Nov 2, 2021
28 min
Pwy oedd yr "Hanging Judge" o Wrecsam, a be mae o'n dda mewn tafarn yn Llundain yn 2014? Y teulu Pitts sy'n ymchwilio...

Oct 26, 2021
Oct 26, 2021
33 min
I ddathlu Calan Gaeaf, mae'r podcast mwyaf sbwci yn y byd yn nôl! Yn y bennod yma o Odpeth, dan ni'n gofyn y cwestiwn mawr - "Ydi'r pandemic yn PLANdemic?" Mae'r ateb yn amlwg (na), ond tydi hynna ddim yn stopio Iwan, Hywel, Elin a Miw (y gath) trafod 5G, Bill Gates a Brexiteers. Wythnos nesaf, ysbryd!
