Episodes
Wednesday Oct 04, 2017
BONWS - Mathonwy Llwyd
Wednesday Oct 04, 2017
Wednesday Oct 04, 2017
Ein gwestai arbennig wythnos yma ydi Mathonwy Llwyd (Y Reu). Mae o'n trafod gitars, Y Reu, yr SRG, bod yn athro, ac hefyd yn ateb eich cwestiynau Twitter. Dilynwch Y Reu ar Twitter @y_reu, hoffwch ar Facebook @yreumusic - neu gwrandewch ar SoundCloud - https://soundcloud.com/y-reu
Wednesday Sep 13, 2017
BONWS - Hywel Williams
Wednesday Sep 13, 2017
Wednesday Sep 13, 2017
Ein gwestai arbennig wythnos yma ydi Hywel Williams, gwleidydd Plaid Cymru ac Aelod Seneddol dros Arfon.
Mae Hywel yn ateb eich cwestiynau Twitter ac yn trafod Jeremy Corbyn, Jacob Rees-Mogg, Brexit, Boris Johnson a choginio!
Dilynwch Hywel ar Twitter - @HywelPlaidCymru.
Monday Jul 03, 2017
BONWS - Elan Grug Muse
Monday Jul 03, 2017
Monday Jul 03, 2017
Mae Grug Muse yn siarad orthography, teganau reslo a gwleidyddiaeth mewn BONWS Podpeth arbennig. Dilynwch Grug ar Twitter (@Elan_Grug) - cyfrol newydd (Ar Ddisberod) allan rwan yn y siop(au).
Wednesday May 31, 2017
BONWS - Elidyr Glyn
Wednesday May 31, 2017
Wednesday May 31, 2017
Mae Elidyr Glyn (Bwncath, enillydd 1af Tlws Alun "Sbardun" Huws) yn siarad gwleidyddiaeth, cerddoriaeth, Heno a Rownd a Rownd mewn BONWS Podpeth arbennig. Dilynwch Bwncath ar Twitter (@bwncathband).
Wednesday May 24, 2017
BONWS - Elidir Jones
Wednesday May 24, 2017
Wednesday May 24, 2017
Bass, beics, boardgames a Büber (?!) - Elidir Jones (Fideo Wyth, Plant Duw, Y Porthwll, a mwy!) ydi ein gwestai arbennig wythnos yma! Dilynwch Elidir ar Trydar (@ElliotSquash).
Wednesday May 17, 2017
BONWS - Lisa Angharad
Wednesday May 17, 2017
Wednesday May 17, 2017
Wythnos yma, mae'r hyfryd Lisa Angharad yn siarad taboobs, telly a terrorists gydag Iwan, Hywel ag Elin.
Gigs gwaethaf, gwers canu, prudish Mexicans, economics, sex-ed Sweden a llwyth mwy yn cael ei drafod. Mae gan Lisa flog (taboob.co), ac mae hi'n gweithio ar nofel, podcast, ffilm, a Monothigh (the Musical).
Wednesday Apr 26, 2017
BONWS Podpeth - Iestyn Tyne
Wednesday Apr 26, 2017
Wednesday Apr 26, 2017
Ei'n gwestai wythnos yma ydi'r bardd Iestyn Tyne! Mae cyfrol newydd Iestyn - "Addunedau" ar gael rwan, a mae rhifyn gyntaf Y Stamp ar gael rwan hefyd - https://ystamp.cymru/2017/03/25/rhifyn-y-stamp-1/
Wednesday Apr 05, 2017
BONWS Podpeth - Iwan Fôn
Wednesday Apr 05, 2017
Wednesday Apr 05, 2017
"Reu", "actio", "Duw", Bryn Fôn, syrpreisys a sleepwalking! Mae'r actor a chanwr Iwan Fôn yn ymuno efo Iwan, Hywel ac Elin i drafod hyn a llawer mwy. Dilynwch Iwan ar Twitter (@IwanFon1) am y diweddaraf.
Wednesday Mar 15, 2017
BONWS Podpeth - Vernon Pitts
Wednesday Mar 15, 2017
Wednesday Mar 15, 2017
Be ddigwyddodd yn 1898 yn Cuba wnaeth ddechrau cyfres o ddigwyddiadau wnaeth arwain at yr ymosodiadau terfysg ar America ar yr 11eg o Fedi, 2001? Mae Vernon Pitts yn "Truther", ac yn ymuno a'i neiaint Iwan a Hywel i dynnu llun fap y byd, egluro'r conspirasi 9/11 o ddechrau i'r diwedd, ac yn datgelu pwy yn union ydi'r "right-wing fascist oligarchs" sydd yn rhedeg y byd mewn podlediad annisgwyl ac annaearol.
Wednesday Mar 01, 2017
BONWS Podpeth - Elan Mererid Rhys
Wednesday Mar 01, 2017
Wednesday Mar 01, 2017
Cyn fflio i Batagonia, mi wnaeth Elan Mererid Rhys siarad efo Iwan a Hywel am Bendith, byw yn Amsterdam, Cân i Gymru, a rock stars yr elusen Gisda. Mae Iwan yn deud pethau tydi o ddim i fod i ddeud, felly anwybyddwch ei eiriau os gwelwch yn dda! Dilynwch Elan ar Twitter - @elanmererid.
Wednesday Feb 15, 2017
BONWS Podpeth - Elis Dafydd
Wednesday Feb 15, 2017
Wednesday Feb 15, 2017
Y bardd Elis Dafydd yw ein gwestai arbennig wythnos yma! Dewch i wrando am awr arbennig lle mae Elis yn siarad am porn, Helyntion Jos Y Ficar ac actio fel pry cop, cyn i Iwan anghofio bod o ddim yn cael siarad am Cân i Gymru (wps!). Dilynwch Elis ar Twitter - @elisdafydd.
Wednesday Jan 25, 2017
BONWS Podpeth - Ifor ap Glyn
Wednesday Jan 25, 2017
Wednesday Jan 25, 2017
Mae ein gwestai arbennig wythnos yma yn Fardd Cenedlaethol Cymru, cyflwynydd Sêr ar HTV Cymru, prif leisydd Treiglad Pherffaith, ac mae o'n cefnogi Spurs. Dewch i wrando ar gyfweliad BONWS lle mae Ifor ap Glyn yn egluro i'r hogia' pethau fel Brexit, Bar Mitzvahs a'r Gynghanedd. Dilynwch Ifor ar Twitter - @iforapglyn
Ymddiheuriadau i:
Asiant Ifor ap Glyn
Arfon Wyn
Donald Trump
Shân Cothi
Cliff Richard
Pobl Cwm-Y-Glo
Pobl Llambed
a Tommo
Wednesday Jan 11, 2017
BONWS Podpeth - Miriam Elin Jones
Wednesday Jan 11, 2017
Wednesday Jan 11, 2017
Mae Miriam Elin Jones yn flogwraig a myfyriwr PhD sydd yn astudio Ffuglen Wyddonol yn y Gymraeg. Mae hi hefyd yn 5'4", ac yn un o sylfaenwyr Y Stamp, cylchgrawn llenyddol newydd. Mae Miriam yn rhagweld y dyfodol, trafod cerddoriaeth a ffasiwn, ac yn dysgu'r hogia am hen fenyw fach Cydweli.
Wednesday Dec 21, 2016
BONWS Podpeth - Mari Lovgreen
Wednesday Dec 21, 2016
Wednesday Dec 21, 2016
Mae'r hogiau yn gwario awr yn wely Mari Lovgreen efo ei ffrind gorau Ffion, ac yn trafod enwau babis, Awst-25wyr a llyfr newydd Mari (allan Medi 2017). Gwyliwch gyfweliad Mari a Gareth Yr Orangutan ar Facebook Y Lle dros y Nadolig.
Wednesday Dec 14, 2016
BONWS Podpeth - Sarah Breese
Wednesday Dec 14, 2016
Wednesday Dec 14, 2016
Mae'r digrifwr Sarah Breese yn dysgu'r hogia am gomedi, shower thoughts, be bynnag 'di "ball squeezing", a sut i ennill BAFTA. Mi fydd Sarah ar Gwerthu Allan wythnos yma; 21:30 nos Wener ar S4C.
Wednesday Dec 07, 2016
BONWS Podpeth - Geraint Iwan
Wednesday Dec 07, 2016
Wednesday Dec 07, 2016
Mae cyflwynydd Radio Cymru Geraint Iwan yn egluro ysbrydion, reality TV, pobl yn byw yn yr haul, Brexit a ffilms M. Night Shyamalan mewn awren o sgwrs efo'r hogia! Mae Geraint ar Radio Cymru bob Nos Wener rhwng 7 a 10.
Wednesday Nov 30, 2016
BONWS Podpeth - Rhys Gwynfor
Wednesday Nov 30, 2016
Wednesday Nov 30, 2016
Mae enillydd Cân I Gymru 2013, Rhys Gwynfor, yn dweud wrth Iwan a Hywel am Cân i Gymru, mobile butchers, a Johnny Crystal (??). Cynnyrch newydd gan crooner mwyaf cŵl Cymru yn fuan ar ei Soundcloud.
Wednesday Nov 23, 2016
BONWS Podpeth - Nici Beech
Wednesday Nov 23, 2016
Wednesday Nov 23, 2016
Mae'r hwylusydd diwylliant Nici Beech yn siarad efo Iwan a Hywel am deledu, cadw cwningod i fwyta, gigs a gwyliau, a'r llyfr newydd, Cegin.
Wednesday Nov 16, 2016
BONWS Podpeth - Llŷr Alun Jones
Wednesday Nov 16, 2016
Wednesday Nov 16, 2016
Mae'r artist Llŷr Alun Jones, a.k.a. Piŵb, wedi troi hen siop COB Records ym Mangor i mewn i ganolfan i'r celfyddydau, ac mae o'n siarad efo Iwan a Hywel am Gogglebox, Prince a Trump.
Wednesday Jun 08, 2016
BONUS Podpeth - Llwyd Owen
Wednesday Jun 08, 2016
Wednesday Jun 08, 2016
Mae'r nofelydd Llwyd Owen yn y stiwdio 'stafell gefn yn siarad am erotic literature, Papa John's a'i lyfr newydd, Taffia.