Episodes
Sunday Oct 04, 2020
Podpeth #67 -"Y GOFID"
Sunday Oct 04, 2020
Sunday Oct 04, 2020
Mae Elin, Hywel ac Iwan yn nôl ar ôl amser maith i drafod be sydd wedi bod yn digwydd (COVID-19/Coronafeirws, 2020) a be sy'n mynd i fod yn digwydd (clwb llyfrau Podpeth - Un Nos Ola Leuad).
Saturday Jul 27, 2019
Podpeth #66 - "Yas Cymru!"
Saturday Jul 27, 2019
Saturday Jul 27, 2019
Mae Elidyr Glyn, y flugalist Miriam Trefor, sport expert Jack Peyton ac 8000 mil o bobl eraill yn ymuno ag Iwan, Hywel ac Elin am dro rownd dre ar orymdaith annibyniaeth hanesyddol yng Nghaernarfon.
Wednesday Mar 06, 2019
Podpeth #65 - "Bolycs Diddoniol"
Wednesday Mar 06, 2019
Wednesday Mar 06, 2019
Hi-di-ho!
Dim Elin wythnos yma yn anffodus, ond mae'r brodyr Pitts yn ol i ddadansoddi'r gair "difyr", ac hefyd i ymosod ar Bolycs Cymraeg.
I wirfoddoli i fod yn westai arbennig, DMiwch ni @Podpeth ar Twitter.
Wednesday Feb 27, 2019
Podpeth #64 - "Ffuglen Gân"
Wednesday Feb 27, 2019
Wednesday Feb 27, 2019
SyniaDad Sbeshal arall gan @SpursMel - tro yma, mae o wedi "dyfeisio" cyfres sy'n gorfodi awduron gorau Cymru i gydweithio efo cerddorion Cymraeg...
Wednesday Feb 20, 2019
Podpeth #63 - "Ffrindiau Elin Haf"
Wednesday Feb 20, 2019
Wednesday Feb 20, 2019
Mae'r podlediad gorau o Gaernarfon (os na mae 'na un arall) yn dychwelyd i'r arfer gyda sgwrs hirwyntog a ddibwynt am sgiliau cyflwyno Hywel, gyrfa gyfryngol Elin, Odpethau Iwan, a dyfodol y Podpeth. Bydd na fwy o Class Cymraeg? Bydd na fwy o Odpethau? Bydd na fwy o "PETH!" (y podlediad i blant)? Pryd da ni am gael gwesteion yn nol?! PWY FYDD Y GWESTEION?! Oedd Ross a Rachel ar break?! Dyma'r cwestiynau da ni isio chi ateb - gadawn ni wybod ar Facebook a Twitter (@Podpeth). Wsos nesa - SyniaDad!
Wednesday Feb 06, 2019
Podpeth #62 - "Dydd Y Farn"
Wednesday Feb 06, 2019
Wednesday Feb 06, 2019
SyniaDad Sbeshal arall gan @SpursMel - tro yma, mae o wedi dyfeisio rhaglen deledu newydd lle mae rheithiwr yn medru ennill drwy ddadlau am elusen gyda seleb.
Wednesday Jan 30, 2019
Podpeth #61 - "BreXit"
Wednesday Jan 30, 2019
Wednesday Jan 30, 2019
Boed chi'n gammon snowflake gwep-goch blin, neu yn remoaning Lefty Corbynite sydd isio Pleidlais y Bobl, nid oes osgoi Brexit, a dyma'r Podpeth mwyaf Brexit-y eto.
Piers Morgan, Theresa May, Donald Trump, Boris Johnson, David Cameron, Winston Churchill, Nazis - am y tro olaf erioed, da ni am drafod Brexit.
Gyda @IwanPitts @HywelPitts ac @ElinGruff.
Wednesday Jan 23, 2019
Podpeth #60 - "Geith John Onllwyd F*** Off"
Wednesday Jan 23, 2019
Wednesday Jan 23, 2019
Mae'r wasg (un boi yn Golwg) wedi bod yn slatio gwaith y brodyr Pitts ar y sioe ddychanol Y Da, Y Drwg a'r Diweddara' oedd ar Radio Cymru yn ddiweddar. Mae'r hogiau yn ymateb i'r feirniadaeth deg ag adeiladol mewn ffordd deg ag adeiladol.
Hefyd, mae'r podlediad addysgol i blant - POD! - yn nol! Tro yma mae Elin yn trafod bwyta'n iach gyda Peth a POD.
Wednesday Jan 16, 2019
Podpeth #59 - "Ti'sho Grêp?"
Wednesday Jan 16, 2019
Wednesday Jan 16, 2019
Wythnos yma, mae Iwan yn cynnig syniad am "spin off" - lle fydd Hywel, Elin ac Iwan yn mynd o amgylch Cymru yn cael bwyd a diod am ddim. I roi flas ar y syniad, mae Iwan yn bwyta grawnwinen wiyrd.
Dyma lun:
Ti'sho grêp? pic.twitter.com/xPfwm6IJyv
— Iwan Pitts (@IwanPitts) January 15, 2019
Wednesday Jan 09, 2019
Podpeth #58 - "Sgrin"
Wednesday Jan 09, 2019
Wednesday Jan 09, 2019
Mae Elin yn nol! A @SpursMel, sydd yn egluro ei SyniaDad gorau eto - "Sgrin". Hefyd, mae Hywel ac Elin wedi bod Ar Y Zip!
Wednesday Jan 02, 2019
Podpeth #57 - "Heddwch ei Lwch 2018"
Wednesday Jan 02, 2019
Wednesday Jan 02, 2019
Blwyddyn Newydd Dda!
Mae Elin yn sal - ond mae'r brodyr Pitts yma efo Papa Pitts (@SpursMel) i chwarae "Heddwch Ei Lwch 2018"!
Mae Heddwch Ei Lwch yn SyniaDad am raglen cwis. Mae pob ateb yn berson wnaeth farw yn 2018. Mwynhewch!
Wednesday Dec 26, 2018
Podpeth #56 - "Paff-ddydd Hapus"
Wednesday Dec 26, 2018
Wednesday Dec 26, 2018
Iawn latch?
Mae Iwan, Hywel ag Elin yn trafod Diwrnod Westminster. Hefyd: rap battles Y Fari Lwyd, addunedau blwyddyn newydd a traddodiadau eraill Boxing Day Cymreig.
Wednesday Dec 19, 2018
Podpeth #55 - "Pwpsi Syrpreis"
Wednesday Dec 19, 2018
Wednesday Dec 19, 2018
Mai bron yn ddolig! Mae Elin, Hywel ac Iwan yn trafod beics, carolau dolig a llwyau cariad (eto). Hefyd, da ni'n hel atgofion am tegannau reslo a doli's babis sy'n cachu.
Wednesday Dec 12, 2018
Podpeth #54 - "Writer's Block"
Wednesday Dec 12, 2018
Wednesday Dec 12, 2018
Mae @SpursMel yn nol ar y Podpeth gyda SyniaDad newydd - "Writer's Block". Hefyd, mae Santa yn dod heibio'r tŷ.
Wednesday Dec 05, 2018
Podpeth #53 - "Cawl Cariad"
Wednesday Dec 05, 2018
Wednesday Dec 05, 2018
Dim Elin tro yma, felly mae Iwan ac Hywel yn trio cofio be oedd o fel yn yr hen ddyddiau.
Lovespoons, ysbrydion, enwau randym a gwestai ydi'r pynciau wythnos yma.
Wednesday Nov 28, 2018
Podpeth #52 - "Sbwngllyd"
Wednesday Nov 28, 2018
Wednesday Nov 28, 2018
Ola chicas!
Dyma pennod newydd o Podpeth!
Mae Hywel, Elin ac Iwan yn cyflwyno hanner awr o fwydro eto.
Clocks, bins, Little Chef a twyllo mewn cwis tafarn!
Gyda pennod gyntaf "POD!" - Podlediad addysgol i blant; gyda Elin, Hywel, "Peth" y creadur diniwed ac effeithiau sain anhygoel.
Wednesday Nov 21, 2018
Podpeth #51 - "Mochan"
Wednesday Nov 21, 2018
Wednesday Nov 21, 2018
Elin, Hywel ac Iwan yn cyflwyno Podpeth!
Mae Elin yn dangos sgiliau acenion hi, mae Iwan yn siarad am neud rhaglenni datio i S4C, ac mae Hywel yn ateb y cwestiwn “Pwy di Hywel Pitts?”
Hefyd, yn dod yn fuan - t-shirts a hwdis Podpeth!
Wednesday Nov 14, 2018
Podpeth #50 - "Canwr Clwb Y Flwyddyn"
Wednesday Nov 14, 2018
Wednesday Nov 14, 2018
Mae Elin, Hywel ac Iwan yn trafod "Be da chi isio?" ac yn dod i'r canlyniad - Syniadau! Felly, mae @SpursMel yn nol ar y Podpeth gyda SyniaDad newydd - "Canwr Clwb Y Flwyddyn".
Wednesday Nov 07, 2018
Podpeth #49 - "Ffowc o Podpeth"
Wednesday Nov 07, 2018
Wednesday Nov 07, 2018
Bang bang!
Mae hi'n fuan ar ol Noson Tan Gwyllt, ac i ddathlu, dyma bennod o Podpeth!
Yn y pennod yma, mae Iwan yn cyfarfod Elaine Summer a Howell Pydew. Mae'r gang yn trafod y presennol, penblwyddi a porn parodies diog. Mae Elin yn wglo, mae rhywun yn trigro Alexa heb drio ac mae dipyn o nostalgia tuag at gemau plant a WWE.
Wednesday Oct 31, 2018
Podpeth #48 - "Ofnadwych"
Wednesday Oct 31, 2018
Wednesday Oct 31, 2018
Wwww Sbwci!
Mae hi'n Galan Gaeaf, ac mae Podpeth yn ôl am byth!
Elin, Hywel ac Iwan sy'n cyflwyno Podpeth ar ei newydd wedd - hanner awr o falu awyr heb gynllun na rheswm. Mae Podpeth bellach yn bodlediad Dosbarth Canol, ac yn trafod bod yn Ddosbarth Canol, prynu tai a phowlenni ffrwythau, ac i ddangos pa mor anhygoel ac angenrheidiol ydi iaith, mae'r gang yn trio neud Podpeth heb ddefnyddio geiriau.