Episodes
Tuesday Nov 29, 2022
Podpêl-droed 2022 (v Lloegr)
Tuesday Nov 29, 2022
Tuesday Nov 29, 2022
Mae'r criw yn trafod gêm olaf Cymru yng Nghwpan y Byd 2022 ar ôl iddynt golli 3-0 i Loegr, wrth i arbrawf Iwan i wneud podlediad yn defnyddio 'mond negeseuon llais fethu'n llwyr.
Sgarff Dafydd Iwan, Geraint Løvgreen, ac annwyd Elin.
Mae Hywel yn plygio ei daith Cabarela (sydd wedi gwerthu allan), ac mae Iwan yn plygio ei rhaglen radio ar Spotify - The Internet Radio Tapes.
Bydd Podpeth yn nôl yn fuan...
Saturday Nov 26, 2022
Podpêl-droed 2022 (v Iran)
Saturday Nov 26, 2022
Saturday Nov 26, 2022
Mae Iwan a Spurs Mel yn trafod ail gêm Cymru yng Nghwpan y Byd 2022 wrth iddynt golli 2-0 i Iran. Mae Mel yn darllen barddoniaeth Ryan Giggs, ac yn gofyn y cwestiwn - Pwy oedd Hitler?
Hefyd, cawn hanes sioe Spotify newydd Iwan (The Internet Radio Tapes).
Mae Hywel ar ei ffordd i gig ym Mryngwran - Bragdy’r Beirdd, ac yn sôn am ei gigs ar y gweill.
Tuesday Nov 22, 2022
Podpêl-droed 2022 (v Yr UDA)
Tuesday Nov 22, 2022
Tuesday Nov 22, 2022
Mae Iwan a Spurs Mel yn trafod gêm gyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd ers 1958, ac yn trafod Qatar, caneuon Cwpan y Byd, Covid, Tudur Owen ar Gogglebocs, a Matt Hancock.
Mae Hywel wedi cael lot gormod i yfed ac yn gohebu o Neuadd y Farchnad.
Saturday Jun 26, 2021
Podpêl-droed 2021 (v Denmarc)
Saturday Jun 26, 2021
Saturday Jun 26, 2021
Mae antur Cymru yn Euro 2020 (a gyrfa Matt Hancock) wedi dod i ben, wrth i Denmarc guro ni 4-0... Mae Iwan a @SpursMel yn trafod y gêm, a'r stad ar Spurs, sydd bellach 2 fis heb rheolwr ers i Jose Mourinho adael, ac mae Hywel ac Elin yn galw i fewn o Bae Colwyn. Www! Egsotic! (Mae 'na sŵ yno). Croesi bysedd, bydd "Podpêl-droed" yn dychwelyd ar gyfer Cwpan y Byd 2022!
Bydd Podpeth yn nôl yn fuan... 'Run amser wythnos nesaf?
Wednesday Jun 16, 2021
Podpêl-droed 2021 (v Twrci)
Wednesday Jun 16, 2021
Wednesday Jun 16, 2021
RAMBOOOO! Dyma barn Iwan a @SpursMel am ail gêm Cymru yn Euro 2020, wedi iddynt ennill 2-0 yn erbyn Twrci! Hefyd ar yr agenda: Christian Eriksen, hiliaeth, a'r annhegwch wrth i'r timau mawr chwarae gemau nhw i gyd cartref.
Hefyd, cawn clywed Hywel ac Elin a gwesteion arbennig (!) yn trafod dannedd Ramsey, a "future Wales captain" Ethan Ampadu.
Saturday Jun 12, 2021
Podpêl-droed 2021 (v Y Swistir)
Saturday Jun 12, 2021
Saturday Jun 12, 2021
Mae Podpêl-droed yn nôl! Dyma barn Iwan a @SpursMel am gêm gyntaf Cymru yn Euro 2020, 1-1 yn erbyn Y Swistir.
Hefyd, cawn clywed Hywel ac Elin a gwesteion arbennig (!) yn trafod ffasiwn Malcs.
Wednesday Jul 06, 2016
Podpêl-droed (v Portiwgal)
Wednesday Jul 06, 2016
Wednesday Jul 06, 2016
Saturday Jul 02, 2016
Podpêl-droed (v Gwlad Belg)
Saturday Jul 02, 2016
Saturday Jul 02, 2016
Wow! Ymateb i gêm hanesyddol arall i Gymru wrth i ni guro'r Gwlad Belg 3-1 i fynd ymlaen i'r rownd gynderfynol! Mae Iwan a @SpursMel yn breuddwydio am Ffrainc, a mae Hywel yn rhegi'n angerddol efo Dan Owen, Mr a Mrs Jones, a dyn mewn poncho (Gaz Clarke) yn y glaw ar faes ŵyl Ymuno.
Saturday Jun 25, 2016
Podpêl-droed (v Gogledd Iwerddon)
Saturday Jun 25, 2016
Saturday Jun 25, 2016
Tuesday Jun 21, 2016
Podpêl-droed (v Rwsia)
Tuesday Jun 21, 2016
Tuesday Jun 21, 2016
Thursday Jun 16, 2016
Podpêl-droed (v Lloegr)
Thursday Jun 16, 2016
Thursday Jun 16, 2016
Mae Iwan a @SpursMel yn dadansoddi ail gêm Cymru yn yr Ewros, yr 1-2 siomedig yn erbyn Lloegr. Hefyd, cawn glywed gan Hywel, sydd dal yn Bordeaux, efo Rhys Evans a Dan Owen o I Fight Lions.
Sunday Jun 12, 2016
Podpêl-droed (v Slofacia)
Sunday Jun 12, 2016
Sunday Jun 12, 2016
Gydag Ewro 2016 wedi cychwyn, mae Iwan a @SpursMel yn dadansoddi gêm gyntaf Cymru, y 2-1 hanesyddol yn erbyn Slofacia. Hefyd, cawn glywed gan Hywel, sydd yn Bordeaux efo Rhys Evans o I Fight Lions.