Episodes
Wednesday Jan 02, 2019
Podpeth #57 - "Heddwch ei Lwch 2018"
Wednesday Jan 02, 2019
Wednesday Jan 02, 2019
Blwyddyn Newydd Dda!
Mae Elin yn sal - ond mae'r brodyr Pitts yma efo Papa Pitts (@SpursMel) i chwarae "Heddwch Ei Lwch 2018"!
Mae Heddwch Ei Lwch yn SyniaDad am raglen cwis. Mae pob ateb yn berson wnaeth farw yn 2018. Mwynhewch!
Sunday Jan 07, 2018
Cwis Podpeth 2017
Sunday Jan 07, 2018
Sunday Jan 07, 2018
Blwyddyn Newydd Dda!
Mae Elin wedi creu cwis, ac mae'r brodyr yn mynd ben-ben i weld pwy oedd yn cymryd sylw ar y newyddion yn 2017! Chwaraewch ymlaen adra a thrydarwch eich sgôr i @podpeth! Efallai bydd wobr i'r tîm gyda'r sgôr uchaf.
Hefyd, mae 'na rownd gan Dad (Heddwch ei Lwch 2017) sydd efallai ddim yn cyfri tuag at y sgôr terfynol...
Sunday Dec 24, 2017
Podpeth Dolig 2017 - "Tina Turnips"
Sunday Dec 24, 2017
Sunday Dec 24, 2017
Nadolig Llawen!
Class Cymraeg! SyniaDad! Sion Corn?! Be ydi'r gwahaniaeth rhwng Sleigh, Sled a Sledge?
Hyn a mwy mewn pennod hynod hir Podpeth!
Monday Aug 28, 2017
Podpeth #41 - Steddfod 2017
Monday Aug 28, 2017
Monday Aug 28, 2017
Shwmae!
Podpeth - Steddfod Sbeshal! Wel, dim o Bodeds, ond wedi ei recordio yng Nghaernarfon wythnosau wedyn. Mae Elin yn dysgu'r hogiau am do bach, mae Iwan yn nôl gyda Odpeth (Hebog a Neidr yn Ennyn Gwŷdd), a chawn glywed cân arbennig Hywel i Tommo o'r Eisteddfod, a pherfformiad stand-up Iwan yn noson Cabarela!
Hefyd, mae Dad yn nôl gyda SyniaDad newydd - "Procar Poeth".
Monday Jul 24, 2017
Podpeth #39 - Sesiwn Fawr 2017
Monday Jul 24, 2017
Monday Jul 24, 2017
Wythnos yma mae Elin, Hywel ac Iwan yn cerdded o gwmpas Dolgellau ar y Dydd Sul, lle mae Iestyn Tyne yn bwyta wyau a'r comedïwr Dan Thomas yn trafod The Room. Yn ogystal â hyn, mae Guto Howells, Gerwyn Murray, Gwilym Bowen Rhys a Gruff Jones yn ymddangos, ac mae Iwan yn sôn am be ddigwyddodd pan aeth o am suit fitting.
Hefyd, mae @SpursMel efo SyniaDad newydd - "Lle Mae Wali?".
Sunday Jul 09, 2017
Podpeth #37 - Gŵyl Arall 2017
Sunday Jul 09, 2017
Sunday Jul 09, 2017
Er bod yr hogiau heb gael gwahoddiad i recordio podlediad arbennig yn fyw o Ŵyl Arall, mi wnaethom fynd a'r recordydd sain lawr i Gaernarfon yn ystod yr wyl ar b'nawn Dydd Sadwrn yn yr haul, a dros awr mewn 4 leoliad gwahanol, mi wnaethom lwyddo i recordio... Podpeth!
Dim Elin, SyniaDad, Class Cymraeg, Postpeth, Gwestai Arbennig 'na Odpeth wythnos yma, mond Iwan a Hywel yn yfed ac yn mwydro. Mwynhewch!
Tuesday May 02, 2017
SyniaDad Sbeshal
Tuesday May 02, 2017
Tuesday May 02, 2017
Wythnos yma, i ddathlu 30 o Podpethau, mae Iwan a Hywel yn edrych yn ôl ar eu hoff SyniaDadau mewn Podpeth arbennig!
Mae'r clipiau yn cynnwys:
KaraoCi Cymraeg (Podpeth #14)
Orchestra'r Mor (Podpeth #10)
Helfa'r Drones (Podpeth #12)
Mwydro'r Mascots (Podpeth #20)
Hwyl Y Ffair (Podpeth #25)
Botwm Michael Jackson (Podpeth #8)
Dilynwch Dad ar Twitter - @SpursMel. Wythnos nesaf, mi fydd Podpeth yn ôl ar ei newydd wedd, wedi ei ailwampio a'i rebootio ('da ni efo jingles newydd).
Wednesday Jul 06, 2016
Podpêl-droed (v Portiwgal)
Wednesday Jul 06, 2016
Wednesday Jul 06, 2016
Saturday Jul 02, 2016
Podpêl-droed (v Gwlad Belg)
Saturday Jul 02, 2016
Saturday Jul 02, 2016
Wow! Ymateb i gêm hanesyddol arall i Gymru wrth i ni guro'r Gwlad Belg 3-1 i fynd ymlaen i'r rownd gynderfynol! Mae Iwan a @SpursMel yn breuddwydio am Ffrainc, a mae Hywel yn rhegi'n angerddol efo Dan Owen, Mr a Mrs Jones, a dyn mewn poncho (Gaz Clarke) yn y glaw ar faes ŵyl Ymuno.
Saturday Jun 25, 2016
Podpêl-droed (v Gogledd Iwerddon)
Saturday Jun 25, 2016
Saturday Jun 25, 2016
Tuesday Jun 21, 2016
Podpêl-droed (v Rwsia)
Tuesday Jun 21, 2016
Tuesday Jun 21, 2016
Thursday Jun 16, 2016
Podpêl-droed (v Lloegr)
Thursday Jun 16, 2016
Thursday Jun 16, 2016
Mae Iwan a @SpursMel yn dadansoddi ail gêm Cymru yn yr Ewros, yr 1-2 siomedig yn erbyn Lloegr. Hefyd, cawn glywed gan Hywel, sydd dal yn Bordeaux, efo Rhys Evans a Dan Owen o I Fight Lions.
Sunday Jun 12, 2016
Podpêl-droed (v Slofacia)
Sunday Jun 12, 2016
Sunday Jun 12, 2016
Gydag Ewro 2016 wedi cychwyn, mae Iwan a @SpursMel yn dadansoddi gêm gyntaf Cymru, y 2-1 hanesyddol yn erbyn Slofacia. Hefyd, cawn glywed gan Hywel, sydd yn Bordeaux efo Rhys Evans o I Fight Lions.
Wednesday Jan 13, 2016
Podpeth 2K15 - Sbeshial Blynyddol
Wednesday Jan 13, 2016
Wednesday Jan 13, 2016
Mae hi'n flwyddyn newydd, amser i adolygu y flwyddyn oedd 2015...Mae Iwan ac Hywel yn trafod y gorau, y gwaethau, a'r Cymraeg: