37.5K
Downloads
156
Episodes
Mae Hywel Pitts, Iwan Pitts ac Elin Gruffydd yn cyflwyno Podpeth, Y Podlediad Cymraeg - cyfres gyfredol, goeglyd a ddadleuol.
Episodes

Jun 26, 2021
Jun 26, 2021
28 min
Mae antur Cymru yn Euro 2020 (a gyrfa Matt Hancock) wedi dod i ben, wrth i Denmarc guro ni 4-0... Mae Iwan a @SpursMel yn trafod y gêm, a'r stad ar Spurs, sydd bellach 2 fis heb rheolwr ers i Jose Mourinho adael, ac mae Hywel ac Elin yn galw i fewn o Bae Colwyn. Www! Egsotic! (Mae 'na sŵ yno). Croesi bysedd, bydd "Podpêl-droed" yn dychwelyd ar gyfer Cwpan y Byd 2022!
Bydd Podpeth yn nôl yn fuan... 'Run amser wythnos nesaf?

Jun 20, 2021
Jun 20, 2021
26 min
Mae Hywel, Elin a Menai yn ymuno 'fo Iwan a @SpursMel am y drydedd gêm, a'r olaf o gemau'r grŵp. Colli 1-0 yn erbyn Yr Eidal, ond dal drwodd i'r 16 olaf. Hefyd: Gŵyl Download, reflexes anhygoel Mel, ac ydi adar yn bodoli?!

Jun 16, 2021
Jun 16, 2021
34 min
RAMBOOOO! Dyma barn Iwan a @SpursMel am ail gêm Cymru yn Euro 2020, wedi iddynt ennill 2-0 yn erbyn Twrci! Hefyd ar yr agenda: Christian Eriksen, hiliaeth, a'r annhegwch wrth i'r timau mawr chwarae gemau nhw i gyd cartref.
Hefyd, cawn clywed Hywel ac Elin a gwesteion arbennig (!) yn trafod dannedd Ramsey, a "future Wales captain" Ethan Ampadu.

Jun 12, 2021
Jun 12, 2021
26 min
Mae Podpêl-droed yn nôl! Dyma barn Iwan a @SpursMel am gêm gyntaf Cymru yn Euro 2020, 1-1 yn erbyn Y Swistir.
Hefyd, cawn clywed Hywel ac Elin a gwesteion arbennig (!) yn trafod ffasiwn Malcs.

May 25, 2021
May 25, 2021
52 min
Yn y pennod olaf o'r gyfres, mae Hywel yn chwarae clipiau o John Ogwen a Maureen Rhys yn darllen detholiad o'r nofel Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard. Mi fydd Un Pod Ola Leuad yn nôl pan mae'r ffilm ar S4C Clic.
Nesaf ar Podpeth, mae Pod Pêl-droed yn atgyfodi ar gyfer Yr Ewros!

May 17, 2021
May 17, 2021
58 min
Yr awdur a podledydd Llwyd Owen ydi'r gwestai arbennig yn y bennod gynderfynol o'r gyfres Un Pod Ola Leuad, sydd yn trafod y nofel Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard. Mae Llwyd yn cyflwyno dau bodlediad ei hun, Does Dim Gair Cymraeg am RANDOM, ac Ysbeidiau Heulog gyda Leigh Jones - sydd ar gael ym mhob man mae podcasts da ar gael.

May 11, 2021
May 11, 2021
57 min
Mae'r bardd talentog a chasglwr llus, Gruffudd Eifion Owen, yn ymuno efo criw Podpeth i drafod y nofel Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard. Mae Gruff hefyd yn egluro Pennod 8, o'r diwedd!

May 4, 2021
May 4, 2021
58 min
UNOL Super-fan Caryl Bryn sy'n ymuno i drafod y nofel Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard efo criw Podpeth.

Apr 27, 2021
Apr 27, 2021
44 min
Yr athrylith o Dŷ Newydd, Miriam Trefor Williams, sy'n ymuno efo criw Podpeth wythnos yma i drafod y nofel Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard.
Rhybudd - peidiwch a quotio'r podlediad yma yn eich traethodau!

Apr 20, 2021
Apr 20, 2021
39 min
Yr actores a dramodydd Mared Llywelyn sy'n ymuno efo criw Podpeth wythnos yma i drafod y nofel Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard.

Apr 13, 2021
Apr 13, 2021
50 min
Wedi darllen Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard, mae criw Podpeth yn trafod eu hagraffiadau cyntaf o'r nofel.

Apr 6, 2021
Apr 6, 2021
31 min
Croeso i UN POD OLA LEUAD - y gyfres newydd lle fydd Iwan Pitts, Hywel Pitts ac Elin Gruff yn dehongli a dadansoddi'r nofel Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard.
Oct 4, 2020
Oct 4, 2020
51 min
Mae Elin, Hywel ac Iwan yn nôl ar ôl amser maith i drafod be sydd wedi bod yn digwydd (COVID-19/Coronafeirws, 2020) a be sy'n mynd i fod yn digwydd (clwb llyfrau Podpeth - Un Nos Ola Leuad).

Nov 1, 2019

Oct 31, 2019
Oct 31, 2019
21 min
Calan Gaeaf Hapus! Pennod olaf Odpeth? Dim cweit, achos mae yna un arall fory (1af o Dachwedd). Tro yma, y pwnc ydi Melltithion, a'r pennawd ydi "Pwyso a Ffrwydro", ac mae Iwan yn siarad am y ffilm Maleficent am amser maith, felly spoilers i Maleficent??

Oct 30, 2019
Oct 30, 2019
21 min
Gwyrthiau ydi'r pwnc yn y bennod arbennig yma, a'r pennawd yw "What-a-fall!"

Oct 29, 2019
Oct 29, 2019
21 min
"Spider-Lamb" ydi'r pennawd yn y bennod arbennig yma o Odpeth sy'n trafod cryptids.

Oct 28, 2019

Oct 27, 2019
Oct 27, 2019
19 min
Be ydi'r cysylltiad rhwng "Ecco the Dolphin" a gwrachod? Cewch ddarganfod yn y bennod yma o Odpeth!

Oct 26, 2019
Oct 26, 2019
19 min
Be yn union ydi "Tylwyth Teg"? Wel, pwnc trafod y bennod arbennig yma o Odpeth, wrth gwrs! Hefyd: Nobby.

