37.5K
Downloads
156
Episodes
Mae Hywel Pitts, Iwan Pitts ac Elin Gruffydd yn cyflwyno Podpeth, Y Podlediad Cymraeg - cyfres gyfredol, goeglyd a ddadleuol.
Episodes

Dec 21, 2016
Dec 21, 2016
1hr 3 min
Mae'r hogiau yn gwario awr yn wely Mari Lovgreen efo ei ffrind gorau Ffion, ac yn trafod enwau babis, Awst-25wyr a llyfr newydd Mari (allan Medi 2017). Gwyliwch gyfweliad Mari a Gareth Yr Orangutan ar Facebook Y Lle dros y Nadolig.

Dec 19, 2016
Dec 19, 2016
1hr 3 min
Wythnos cyn 'dolig, ac am y chweched wythnos yn olynol, dyma Podpeth arall!
Mae'r hogia yn trafod barfau a rhyfeloedd, ac yn ymddiheuro i Jefferson Montero. Hefyd, mae Mari Løvgreen (a'i ffrind Ffion) yn ateb eich cwestiynau Twitter a Facebook (@Podpeth), ac mae Dad efo syniad am raglen - 'Carreg Filltir'.

Dec 14, 2016
Dec 14, 2016
1hr 40 sec
Mae'r digrifwr Sarah Breese yn dysgu'r hogia am gomedi, shower thoughts, be bynnag 'di "ball squeezing", a sut i ennill BAFTA. Mi fydd Sarah ar Gwerthu Allan wythnos yma; 21:30 nos Wener ar S4C.

Dec 12, 2016
Dec 12, 2016
1hr 4 sec
Ein gwestai arbennig trwy hud y rhyngrwyd ydi'r digrifwr Sarah Breese, sy'n ateb eich cwestiynau twitter (@Podpeth). Mae Iwan a Hywel yn trafod terfysgaeth a peanut butter, cyn ceisio am swydd fel cydweithredwyr S4C, ac mae Dad efo SyniaDad am gŵn yn canu.

Dec 7, 2016
Dec 7, 2016
1hr 4 min
Mae cyflwynydd Radio Cymru Geraint Iwan yn egluro ysbrydion, reality TV, pobl yn byw yn yr haul, Brexit a ffilms M. Night Shyamalan mewn awren o sgwrs efo'r hogia! Mae Geraint ar Radio Cymru bob Nos Wener rhwng 7 a 10.

Dec 5, 2016
Dec 5, 2016
56 min
"Kevin!"
Ia wir, mae'r Podpeth yn nol eto gyda phennod anlwcus i'r rhai sydd ddim yn cyfri'r Bonwses fel penodau go wir (fel ni). Wythnos yma, mae Geraint Iwan yn ymuno i siarad am junk food a Gerry Adams, ac mae'r hogiau yn siarad am sut fedrwch chi sy'n gwrando noddi'r Podpeth, a sut byswch chi'n elwa. Hefyd, mae Dad efo syniad newydd am raglen teledu - "Y Llew Gwyn".

Nov 30, 2016
Nov 30, 2016
1hr 4 min
Mae enillydd Cân I Gymru 2013, Rhys Gwynfor, yn dweud wrth Iwan a Hywel am Cân i Gymru, mobile butchers, a Johnny Crystal (??). Cynnyrch newydd gan crooner mwyaf cŵl Cymru yn fuan ar ei Soundcloud.

Nov 28, 2016
Nov 28, 2016
57 min
Podpeth ahoy!
Ein gwestai arbennig wythnos yma ydi Rhys Gwynfor, sydd yn ateb eich cwestiynau Twitter (@Podpeth). Mae Iwan ac Hywel yn trafod Fidel Castro, mae Iwan yn son am ei ddyfodol fel podlediwr a stand-up, cyn i Hywel bron iawn datgelu cyfrinach... Hefyd, mae Dad efo syniad newydd - "Helfa'r Drons".

Nov 23, 2016
Nov 23, 2016
1hr 5 min
Mae'r hwylusydd diwylliant Nici Beech yn siarad efo Iwan a Hywel am deledu, cadw cwningod i fwyta, gigs a gwyliau, a'r llyfr newydd, Cegin.

Nov 21, 2016
Nov 21, 2016
1hr 6 min
Wythnos newydd, Podpeth newydd!
Ydi Iwan a Hywel wedi aberthu cynnwys o ansawdd er mwyn cael podlediad mwy cyson? Do.
Ein gwestai arbennig ydi Nici Beech, sydd yn ateb eich cwestiynau Twitter (@Podpeth). Mae Iwan hefyd yn eich annog i droi at drydaru er mwyn ein beirniadu yn gas am bodledu mor wael, wrth i Hywel (sydd yn hanner cysgu) hel atgofion am gael ei "happy slapio" ym Mangor. Hefyd, mae Dad efo syniad newydd - "Emosiynol".

Nov 16, 2016
Nov 16, 2016
1hr 7 min
Mae'r artist Llŷr Alun Jones, a.k.a. Piŵb, wedi troi hen siop COB Records ym Mangor i mewn i ganolfan i'r celfyddydau, ac mae o'n siarad efo Iwan a Hywel am Gogglebox, Prince a Trump.

Nov 14, 2016
Nov 14, 2016
1hr 5 min
Mae Hywel ag Iwan nol ar ol amser maith!
Sut mae'r byd wedi newid ers y tro diwethaf i ni glywed Podpeth?
Ein gwestai arbennig ydi'r hogyn o Sling - na, dim John Ogwen, ond yr artist Llŷr Alun Jones! Mi fydd o'n ateb rhai o'ch cwestiynau Twitter (@Podpeth) - mwy o Llŷr i ddod yn fuan mewn pennod Bonws. Hefyd, mae Dad efo syniad newydd.

Jul 6, 2016
Jul 6, 2016
19 min

Jul 2, 2016
Jul 2, 2016
17 min
Wow! Ymateb i gêm hanesyddol arall i Gymru wrth i ni guro'r Gwlad Belg 3-1 i fynd ymlaen i'r rownd gynderfynol! Mae Iwan a @SpursMel yn breuddwydio am Ffrainc, a mae Hywel yn rhegi'n angerddol efo Dan Owen, Mr a Mrs Jones, a dyn mewn poncho (Gaz Clarke) yn y glaw ar faes ŵyl Ymuno.

Jun 25, 2016

Jun 21, 2016
Jun 21, 2016
17 min

Jun 16, 2016

Jun 12, 2016

Jun 8, 2016
Jun 8, 2016
1hr 35 sec
Mae'r nofelydd Llwyd Owen yn y stiwdio 'stafell gefn yn siarad am erotic literature, Papa John's a'i lyfr newydd, Taffia.

Jun 5, 2016
Jun 5, 2016
58 min
Mae un o gyflwynwyr gorau Cymru (top 3!) Dyl Mei yn trafod guilt trips, Gwobrau'r Selar, Duffy a FIFA.
