37.5K
Downloads
156
Episodes
Mae Hywel Pitts, Iwan Pitts ac Elin Gruffydd yn cyflwyno Podpeth, Y Podlediad Cymraeg - cyfres gyfredol, goeglyd a ddadleuol.
Episodes

Jan 9, 2019
Jan 9, 2019
30 min
Mae Elin yn nol! A @SpursMel, sydd yn egluro ei SyniaDad gorau eto - "Sgrin". Hefyd, mae Hywel ac Elin wedi bod Ar Y Zip!

Jan 2, 2019
Jan 2, 2019
34 min
Blwyddyn Newydd Dda!
Mae Elin yn sal - ond mae'r brodyr Pitts yma efo Papa Pitts (@SpursMel) i chwarae "Heddwch Ei Lwch 2018"!
Mae Heddwch Ei Lwch yn SyniaDad am raglen cwis. Mae pob ateb yn berson wnaeth farw yn 2018. Mwynhewch!

Dec 26, 2018
Dec 26, 2018
30 min
Iawn latch?
Mae Iwan, Hywel ag Elin yn trafod Diwrnod Westminster. Hefyd: rap battles Y Fari Lwyd, addunedau blwyddyn newydd a traddodiadau eraill Boxing Day Cymreig.

Dec 19, 2018
Dec 19, 2018
30 min
Mai bron yn ddolig! Mae Elin, Hywel ac Iwan yn trafod beics, carolau dolig a llwyau cariad (eto). Hefyd, da ni'n hel atgofion am tegannau reslo a doli's babis sy'n cachu.

Dec 12, 2018
Dec 12, 2018
30 min
Mae @SpursMel yn nol ar y Podpeth gyda SyniaDad newydd - "Writer's Block". Hefyd, mae Santa yn dod heibio'r tŷ.

Dec 5, 2018
Dec 5, 2018
30 min
Dim Elin tro yma, felly mae Iwan ac Hywel yn trio cofio be oedd o fel yn yr hen ddyddiau.
Lovespoons, ysbrydion, enwau randym a gwestai ydi'r pynciau wythnos yma.

Nov 28, 2018
Nov 28, 2018
30 min
Ola chicas!
Dyma pennod newydd o Podpeth!
Mae Hywel, Elin ac Iwan yn cyflwyno hanner awr o fwydro eto.
Clocks, bins, Little Chef a twyllo mewn cwis tafarn!
Gyda pennod gyntaf "POD!" - Podlediad addysgol i blant; gyda Elin, Hywel, "Peth" y creadur diniwed ac effeithiau sain anhygoel.

Nov 21, 2018
Nov 21, 2018
30 min
Elin, Hywel ac Iwan yn cyflwyno Podpeth!
Mae Elin yn dangos sgiliau acenion hi, mae Iwan yn siarad am neud rhaglenni datio i S4C, ac mae Hywel yn ateb y cwestiwn “Pwy di Hywel Pitts?”
Hefyd, yn dod yn fuan - t-shirts a hwdis Podpeth!

Nov 14, 2018
Nov 14, 2018
30 min
Mae Elin, Hywel ac Iwan yn trafod "Be da chi isio?" ac yn dod i'r canlyniad - Syniadau! Felly, mae @SpursMel yn nol ar y Podpeth gyda SyniaDad newydd - "Canwr Clwb Y Flwyddyn".

Nov 7, 2018
Nov 7, 2018
30 min
Bang bang!
Mae hi'n fuan ar ol Noson Tan Gwyllt, ac i ddathlu, dyma bennod o Podpeth!
Yn y pennod yma, mae Iwan yn cyfarfod Elaine Summer a Howell Pydew. Mae'r gang yn trafod y presennol, penblwyddi a porn parodies diog. Mae Elin yn wglo, mae rhywun yn trigro Alexa heb drio ac mae dipyn o nostalgia tuag at gemau plant a WWE.

Oct 31, 2018
Oct 31, 2018
30 min
Wwww Sbwci!
Mae hi'n Galan Gaeaf, ac mae Podpeth yn ôl am byth!
Elin, Hywel ac Iwan sy'n cyflwyno Podpeth ar ei newydd wedd - hanner awr o falu awyr heb gynllun na rheswm. Mae Podpeth bellach yn bodlediad Dosbarth Canol, ac yn trafod bod yn Ddosbarth Canol, prynu tai a phowlenni ffrwythau, ac i ddangos pa mor anhygoel ac angenrheidiol ydi iaith, mae'r gang yn trio neud Podpeth heb ddefnyddio geiriau.

Apr 1, 2018
Apr 1, 2018
1hr 13 min
Mae Podpeth yn ôl!
Mae Iwan wedi cael gig gwael, ac yn cael rant mor anghyfforddus am y peth ein bod ni'n ei gladdu ar ddiwedd y bennod, ac mae Elin a Hywel wedi prynu tŷ!
Wythnos yma yn Class Cymraeg, mae Elin yn trafod termau pêl-droed.
Hefyd, mae Dad yn trafod y SyniaDad diweddaraf - "Talwn Y Beirdd".

Jan 7, 2018
Jan 7, 2018
1hr 39 min
Blwyddyn Newydd Dda!
Mae Elin wedi creu cwis, ac mae'r brodyr yn mynd ben-ben i weld pwy oedd yn cymryd sylw ar y newyddion yn 2017! Chwaraewch ymlaen adra a thrydarwch eich sgôr i @podpeth! Efallai bydd wobr i'r tîm gyda'r sgôr uchaf.
Hefyd, mae 'na rownd gan Dad (Heddwch ei Lwch 2017) sydd efallai ddim yn cyfri tuag at y sgôr terfynol...

Dec 24, 2017
Dec 24, 2017
1hr 58 min
Nadolig Llawen!
Class Cymraeg! SyniaDad! Sion Corn?! Be ydi'r gwahaniaeth rhwng Sleigh, Sled a Sledge?
Hyn a mwy mewn pennod hynod hir Podpeth!

Dec 18, 2017
Dec 18, 2017
1hr 24 min
Konnichiwa!
Lle mae'r Podpeth wedi bod?! Be ydi'r gwahaniaeth rhwng cupcake a fairy cake? Be ydi eyebrows yn Gymraeg? Y cwestiynau yma a lot mwy yn cael ei ateb wythnos yma mewn pennod newydd o Podpeth.
Hefyd, mae Dad yn dychwelyd gyda SyniaDad anhygoel arall - "Priodi Pwy?!"

Oct 4, 2017
Oct 4, 2017
1hr 7 min
Ein gwestai arbennig wythnos yma ydi Mathonwy Llwyd (Y Reu). Mae o'n trafod gitars, Y Reu, yr SRG, bod yn athro, ac hefyd yn ateb eich cwestiynau Twitter. Dilynwch Y Reu ar Twitter @y_reu, hoffwch ar Facebook @yreumusic - neu gwrandewch ar SoundCloud - https://soundcloud.com/y-reu

Oct 2, 2017
Oct 2, 2017
1hr 19 min
Wythnos yma, mae Elin yn dysgu'r hogiau am y gwahaniaeth rhwng "ac" ac "ag", mae Hywel yn trio cyfathrebu heb ddefnyddio geiriau ac mae Iwan yn teimlo bod y Podpeth yn cyrraedd low point.
Mathonwy Llwyd o Y Reu sydd yn ateb eich cwestiynau Twitter.
Hefyd, mae gan Dad syniad newydd - "Prawf Sgrin".

Sep 18, 2017
Sep 18, 2017
1hr 49 min
Podpeth hir iawn wythnos yma, ond ddim Bonws, felly mae'n iawn yndi?
Mae Hywel ac Elin yn mynd ar wyliau ac mae Iwan yn dynwared Tom Jones. Yn Class Cymraeg, 'da ni'n cael fwy o ddiarhebion, ac efallai bod ni'n clywed yr Odpeth gwaethaf erioed - "Irma Help Kids With Porn Money". Sori.
Hefyd, mae gan @SpursMel syniad am ffilm - KGBale.

Sep 13, 2017
Sep 13, 2017
1hr 26 min
Ein gwestai arbennig wythnos yma ydi Hywel Williams, gwleidydd Plaid Cymru ac Aelod Seneddol dros Arfon.
Mae Hywel yn ateb eich cwestiynau Twitter ac yn trafod Jeremy Corbyn, Jacob Rees-Mogg, Brexit, Boris Johnson a choginio!
Dilynwch Hywel ar Twitter - @HywelPlaidCymru.

Sep 11, 2017
Sep 11, 2017
1hr 26 min
Mae Iwan yn ail-ddychmygu y Gruffalo o'r newydd, mae Elin yn dyfal donc yn Class Cymraeg, mae Hywel yn holi Hywel (Williams AS) ac mae @SpursMel yn pitchio SyniaDad newydd - "2050".
Fydd y Bonws gyda sgwrs cyfan efo Hywel Williams allan yn fuan...
Dilynwch ni ar Twitter @podpeth a cysylltwch drwy'r wefan - podpeth.com
