37.5K
Downloads
156
Episodes
Mae Hywel Pitts, Iwan Pitts ac Elin Gruffydd yn cyflwyno Podpeth, Y Podlediad Cymraeg - cyfres gyfredol, goeglyd a ddadleuol.
Episodes

Sep 4, 2017
Sep 4, 2017
1hr 12 min
Cyfarchion!
Spoiler Alert - mae Elin, Hywel ac Iwan yn trafod Game of Thrones wythnos yma, ac yn ailgreu golygfa yn y Gymraeg.
Mae Elin yn siarad am faint o sgeri ydi Wcw, ac yn dysgu'r hogia am cyplysnodau yn Class Cymraeg, ac mae Hywel wedi bod ar RADIO CYMRU wythnos yma, a di Iwan ddim yn hapus am y peth!
Hefyd, mae gan Dad syniad newydd - "Sêl Y Sêr".

Aug 28, 2017
Aug 28, 2017
2hr 30 sec
Shwmae!
Podpeth - Steddfod Sbeshal! Wel, dim o Bodeds, ond wedi ei recordio yng Nghaernarfon wythnosau wedyn. Mae Elin yn dysgu'r hogiau am do bach, mae Iwan yn nôl gyda Odpeth (Hebog a Neidr yn Ennyn Gwŷdd), a chawn glywed cân arbennig Hywel i Tommo o'r Eisteddfod, a pherfformiad stand-up Iwan yn noson Cabarela!
Hefyd, mae Dad yn nôl gyda SyniaDad newydd - "Procar Poeth".

Jul 31, 2017
Jul 31, 2017
1hr 17 min
Wythnos yma mae Elin, Hywel ac Iwan yn sôn am sound system Dan Owen, Jim Dyson, a hunllef gwaethaf atheists, tra mae Hywel yn cael vanilla latte sy'n achosi meigryn.
Mae Elin yn dysgu'r 'ogia am tafodiaeth, a mae Iwan yn cyflwyno Odpeth od iawn - Ti Ddim Ar Ben Dy Hun. Hefyd, mae @SpursMel efo SyniaDad newydd - "Cadair Cerddorion".

Jul 24, 2017
Jul 24, 2017
1hr 6 min
Wythnos yma mae Elin, Hywel ac Iwan yn cerdded o gwmpas Dolgellau ar y Dydd Sul, lle mae Iestyn Tyne yn bwyta wyau a'r comedïwr Dan Thomas yn trafod The Room. Yn ogystal â hyn, mae Guto Howells, Gerwyn Murray, Gwilym Bowen Rhys a Gruff Jones yn ymddangos, ac mae Iwan yn sôn am be ddigwyddodd pan aeth o am suit fitting.
Hefyd, mae @SpursMel efo SyniaDad newydd - "Lle Mae Wali?".

Jul 17, 2017
Jul 17, 2017
1hr 49 min
Wythnos yma mae Elin, Hywel ac Iwan yn trafod Umami, y blas sydd ddim yn sur, chwerw, hallt neu felys. Hefyd ar yr agenda mae Wacky Races, Elon Musk, mabolgampau ac enwau brenhinol.
Dim gwestai wythnos yma, ond mae 'na Odpeth - Jackson Chwilod (Pollock), ac mae Elin yn dysgu'r hogiau am dybl N ac R a'r goben yn Class Cymraeg.
Hefyd, mae @SpursMel efo SyniaDad newydd - "O Bacchus I'r Bar".

Jul 9, 2017
Jul 9, 2017
45 min
Er bod yr hogiau heb gael gwahoddiad i recordio podlediad arbennig yn fyw o Ŵyl Arall, mi wnaethom fynd a'r recordydd sain lawr i Gaernarfon yn ystod yr wyl ar b'nawn Dydd Sadwrn yn yr haul, a dros awr mewn 4 leoliad gwahanol, mi wnaethom lwyddo i recordio... Podpeth!
Dim Elin, SyniaDad, Class Cymraeg, Postpeth, Gwestai Arbennig 'na Odpeth wythnos yma, mond Iwan a Hywel yn yfed ac yn mwydro. Mwynhewch!

Jul 3, 2017
Jul 3, 2017
1hr 5 min
Mae Grug Muse yn siarad orthography, teganau reslo a gwleidyddiaeth mewn BONWS Podpeth arbennig. Dilynwch Grug ar Twitter (@Elan_Grug) - cyfrol newydd (Ar Ddisberod) allan rwan yn y siop(au).

Jun 27, 2017
Jun 27, 2017
1hr 11 min
Rhan 2 o Podpeth 36!
Yn y bennod yma mae Hywel, Elin ac Iwan yn trafod hanes cymeriadau comedi Cymru, Wetherspoons, a chwmnïau Cymraeg!
Mae Miss Elin yn dysgu'r hogiau'r gwahaniaeth rhwng gyrru, anfon a danfon yn Class Cymraeg.
Hefyd, mae gan Dad syniad newydd - "Y Targed".
Cysylltwch drwy'r wefan (podpeth.com) yn anhysbys, neu'n gyhoeddus drwy Twitter - @Podpeth

Jun 26, 2017
Jun 26, 2017
1hr 8 min
Rhan 1 o Podpeth 36!
Yn y bennod yma mae Hywel, Elin ac Iwan yn trafod newyddiaduraeth, gwleidyddiaeth, y gwahaniaeth rhwng chick pea a runner bean, a pam bod Rupert The Bear yn gwisgo'r trowsus 'na?!
Yn ymuno dros y we o Abertawe yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf mae'r bardd Elan Grug Muse, sydd yn ateb eich cwestiynau Twitter! Mae cyfrol newydd Grug (Ar Ddisberod) ar gael rŵan.
Mae Iwan hefyd yn cyflwyno Odpeth yr wythnos (Sgert Cwl).
Cadwch lygad allan am Ran 2 (Podpeth 36.5) i glywed SyniaDad wythnos yma (Y Targed) a Class Cymraeg!

Jun 12, 2017
Jun 12, 2017
1hr 34 min
Gyda senedd grog a dyfodol ansicr, mae Elin, Hywel ac Iwan yn trafod rhyw ar teli, Rastafarianism ac yoga!
Mae Miss Elin yn dysgu'r hogia sut i dreiglo yn gywir yn Class Cymraeg, mae Hywel yn cyflwyno Odpeth yr wythnos ("Bark Zuckerberg"), ac mae Iwan yn gofyn y cwestiynau pwysig i gyd fel "pwy fysa'n curo mewn ffeit - Sting ta Rag'N'Bone Man?".
Hefyd, mae Dad (@SpursMel) efo SyniaDad newydd - "Fy Hoff Raeadr".

Jun 5, 2017
Jun 5, 2017
1hr 14 min
Wythnos yma, mae Hywel, Elin ac Iwan yn trafod yr etholiad.
Mae Miss Elin yn dysgu'r hogiau'r gwahaniaeth rhwng "cychwyn" a "dechrau", a phryd i ddefnyddio Y neu Yr. Mae Hywel yn cyflwyno Odpeth yr wythnos ("Marty McFine"), ac yn lle BONWS, mi fydd y BONWS Odpethau yn mynd ar ei'n sianel YouTube (sydd dal yn llwyth o nymbyrs a llythrennau randym fel UCzl9hDsPh1uhnpZS1Ipd9zQ gan nad oes ddigon o danysgrifwyr).
Hefyd, mae Dad (@SpursMel ar Twitter) efo SyniaDad newydd - "Yr Ods".

May 31, 2017
May 31, 2017
1hr 7 min
Mae Elidyr Glyn (Bwncath, enillydd 1af Tlws Alun "Sbardun" Huws) yn siarad gwleidyddiaeth, cerddoriaeth, Heno a Rownd a Rownd mewn BONWS Podpeth arbennig. Dilynwch Bwncath ar Twitter (@bwncathband).

May 29, 2017
May 29, 2017
1hr 49 min
Mae Hywel ag Elin yn hungover (eto) ar Ddydd Llun Gŵyl y Banc, ac mae Iwan yn benderfynol o fod yn ddwys drwy son am derfysgaeth.
Mae Miss Elin yn dysgu'r hogiau sut i ddweud os ydi gair yn fenywaidd neu wrywaidd, mae Iwan yn cyflwyno Odpeth yr wythnos ("Tigerist"), ac ar ôl i bethau droi yn ddifrifol, mae Hywel yn cytuno i fod yn gyfrifol am Odpeth wythnos nesaf. Elidyr Glyn (Bwncath) sydd yn ateb eich cwestiynau Twitter (@Podpeth).
Hefyd, mae @SpursMel efo SyniaDad newydd - "Lleoli'r Llwch".

May 24, 2017
May 24, 2017
1hr 4 min
Bass, beics, boardgames a Büber (?!) - Elidir Jones (Fideo Wyth, Plant Duw, Y Porthwll, a mwy!) ydi ein gwestai arbennig wythnos yma! Dilynwch Elidir ar Trydar (@ElliotSquash).

May 22, 2017
May 22, 2017
1hr 32 min
Mae Hywel, Iwan ag Elin yn hungover yn y bennod yma, ac yn siarad am amryw o bethau dibwys a gwirion.
Mae Miss Elin yn dysgu'r hogiau am arddodiaid, mae Iwan yn cyflwyno Odpeth yr wythnos ("Haka Na'n Mental"), ac mae Hywel yn switchio off. Elidir Jones (@ElliotSquash, Fideo Wyth, Plant Duw, Y Porthwll, Griff Y Ci, ayyb) sydd yn ateb eich cwestiynau Twitter (@Podpeth).
Hefyd, mae @SpursMel efo SyniaDad newydd - "Styffylau".

May 17, 2017
May 17, 2017
1hr 2 min
Wythnos yma, mae'r hyfryd Lisa Angharad yn siarad taboobs, telly a terrorists gydag Iwan, Hywel ag Elin.
Gigs gwaethaf, gwers canu, prudish Mexicans, economics, sex-ed Sweden a llwyth mwy yn cael ei drafod. Mae gan Lisa flog (taboob.co), ac mae hi'n gweithio ar nofel, podcast, ffilm, a Monothigh (the Musical).

May 15, 2017
May 15, 2017
1hr 24 min
Mae Hywel, Iwan ag Elin yn nôl gyda Podpeth ar ei newydd wedd, gyda jingles a phethau go wir!
Yr Odpeth gyntaf erioed, y Class Cymraeg gyntaf erioed, ac mae Lisa Angharad yn ateb eich cwestiynau Twitter!
Hefyd, mae @SpursMel efo syniad newydd - Ffrinj.
*YMWRTHODIAD* - Mae Hywel yn sôn am ei gig "wythnos nesaf", ond yr wythnos wedyn mae'r gig, felly disgwyliwch glywed yr un plyg wythnos nesaf.

May 2, 2017
May 2, 2017
1hr 4 min
Wythnos yma, i ddathlu 30 o Podpethau, mae Iwan a Hywel yn edrych yn ôl ar eu hoff SyniaDadau mewn Podpeth arbennig!
Mae'r clipiau yn cynnwys:
KaraoCi Cymraeg (Podpeth #14)
Orchestra'r Mor (Podpeth #10)
Helfa'r Drones (Podpeth #12)
Mwydro'r Mascots (Podpeth #20)
Hwyl Y Ffair (Podpeth #25)
Botwm Michael Jackson (Podpeth #8)
Dilynwch Dad ar Twitter - @SpursMel. Wythnos nesaf, mi fydd Podpeth yn ôl ar ei newydd wedd, wedi ei ailwampio a'i rebootio ('da ni efo jingles newydd).

Apr 26, 2017
Apr 26, 2017
1hr 19 min
Ei'n gwestai wythnos yma ydi'r bardd Iestyn Tyne! Mae cyfrol newydd Iestyn - "Addunedau" ar gael rwan, a mae rhifyn gyntaf Y Stamp ar gael rwan hefyd - https://ystamp.cymru/2017/03/25/rhifyn-y-stamp-1/

Apr 24, 2017
Apr 24, 2017
1hr 2 min
Wythnos yma mae Elin, Hywel ac Iwan yn eistedd yn yr ardd i drafod newidiadau mawr fydd yn digwydd i'r Podpeth yn fuan. Mae'r bardd/cerddor Iestyn Tyne yn ymuno a ni i ateb eich cwestiynau Twitter (@Podpeth).
Hefyd, mae @SpursMel efo DAU SyniaDad(au) - "Dadansoddi'r Ser" a "Bwydydd Y Bandiau".
