37.5K
Downloads
156
Episodes
Mae Hywel Pitts, Iwan Pitts ac Elin Gruffydd yn cyflwyno Podpeth, Y Podlediad Cymraeg - cyfres gyfredol, goeglyd a ddadleuol.
Episodes

Apr 5, 2017
Apr 5, 2017
1hr 4 min
"Reu", "actio", "Duw", Bryn Fôn, syrpreisys a sleepwalking! Mae'r actor a chanwr Iwan Fôn yn ymuno efo Iwan, Hywel ac Elin i drafod hyn a llawer mwy. Dilynwch Iwan ar Twitter (@IwanFon1) am y diweddaraf.

Apr 3, 2017
Apr 3, 2017
1hr 19 min
Shwdwti!
Wythnos yma mae WRESTLEMANIA!, ac mae Iwan yn trio egluro'r peth i Hywel ac Elin. Ond, dim reslo ydi popeth, gan fod fwy i'w wneud, gan gynnwys sgwennu jingles, hanner buwch, a sgwrs ddifyr efo Iwan Fôn o Y Reu, Rownd a Rownd(?!) a Tourism Board Carmel, sydd yn ateb eich cwestiynau (@podpeth). Hefyd, mae Dad efo syniad newydd - "Trysor Ta Trash".

Mar 27, 2017
Mar 27, 2017
1hr 34 min
Shalom!
Dim gwestai wythnos yma, ond mae'r Podpeth yn un hirach na'r arfer yn yr wythnos lle mae ymosodiad terfysg arall wedi digwydd. Mae Iwan, Hywel ac Elin yn trafod hyn a mwy, gan gynnwys hipster migraines, Zombi 2, gravlax, prancs a mwy! Hefyd, mae Dad efo syniad newydd - "Dim Byd O Bwys".


Mar 20, 2017
Mar 20, 2017
1hr 12 min
Binky, Bunky, Bonky!
Hulks, haircuts, hiliaeth! Pennod ddadleuol newydd o Podpeth, efo Elin Gruffydd, Hywel Pitts, a'i frawd Iwan. Mae Hywel yn ofn dal salwch Iwan, ac mae Elin yn gwella'r safon iaith yn gyffredinol. Face-blindness, y Quran, tanwydd di-blwm a llawer mwy yn cael ei drafod, a chofiwch gysylltu drwy drydaru (@Podpeth). Hefyd, mae Dad efo syniad newydd - "Graffiti Cymraeg".


Mar 15, 2017
Mar 15, 2017
1hr 17 min
Be ddigwyddodd yn 1898 yn Cuba wnaeth ddechrau cyfres o ddigwyddiadau wnaeth arwain at yr ymosodiadau terfysg ar America ar yr 11eg o Fedi, 2001? Mae Vernon Pitts yn "Truther", ac yn ymuno a'i neiaint Iwan a Hywel i dynnu llun fap y byd, egluro'r conspirasi 9/11 o ddechrau i'r diwedd, ac yn datgelu pwy yn union ydi'r "right-wing fascist oligarchs" sydd yn rhedeg y byd mewn podlediad annisgwyl ac annaearol.


Mar 13, 2017
Mar 13, 2017
1hr 7 min
Face front, true believer!
Mae Podpeth yma unwaith eto, gydag Elin Gruffydd, Hywel Pitts ac Iwan Pitts yn trafod y pethau pwysig i gyd: Be sy'n waeth, Party Like A Russian gan Robbie Williams, neu Smells Like Teen Spirit gan Take That? Be yn union sydd tu fewn i Creme Egg? Pwy ydi Yncl Vern, a pam bod ni wedi cael o ar y Podpeth? Ia, ein gwestai arbennig wythnos yma ydi ewythr yr hogia, Vern Pitts, sydd yn ateb eich cwestiynau Twitter (@Podpeth).
Hefyd, mae Dad efo syniad newydd - "Llyfrbryfed".

Mar 6, 2017
Mar 6, 2017
1hr 9 min
Ahoyhoy!
Technoleg, iaith, carnies, Phil Mitchell ym Mangor, Watergate, a mwy! Mae'r brodyr Iwan a Hywel Pitts yn cyflwyno Podpeth. Wythnos yma, mae Elin Gruffydd yn ymuno a'r hogia, ac yn anffodus dydi hi byth wedi gweld Beauty and the Beast (Spoilers i Beauty and the Beast). Hefyd, mae Dad efo syniad newydd - "Hwyl Y Ffair".
Dilynwch ni ar Twitter/Facebook ayyb - @Podpeth
Rhybudd - iaith wael a dramgwyddus.

Mar 1, 2017
Mar 1, 2017
1hr 11 min
Cyn fflio i Batagonia, mi wnaeth Elan Mererid Rhys siarad efo Iwan a Hywel am Bendith, byw yn Amsterdam, Cân i Gymru, a rock stars yr elusen Gisda. Mae Iwan yn deud pethau tydi o ddim i fod i ddeud, felly anwybyddwch ei eiriau os gwelwch yn dda! Dilynwch Elan ar Twitter - @elanmererid.

Feb 27, 2017
Feb 27, 2017
1hr 10 min
#JeSuisIkea
Cathod, gwrachod, Yncl Vern a zombies! Mae Iwan a Hywel Pitts yn nol i falu cachu am awr o'ch amser unwaith eto. Tro yma, mae Elan Mererid Rhys (Plu, Bendith) ar y soffa i drafod caws, ceir ac adar (diolch am eich cwestiynau Twitter - @Podpeth), cyn i'r hogia' plygio pethau (gig Hywel Nos Wener 3/3, podlediad arall Iwan sydd yn y "cloud") am rhy hir. Hefyd, mae Dad efo syniad newydd - "Incognito".

Feb 20, 2017
Feb 20, 2017
1hr 35 min
Shwd wti?!
Mae'r anfarwol Podpeth yn nol, efo Iwan, Hywel ac Elin yn cyflwyno: Munud i Trump, hanner awr i SwperTed (Sbot, Smot ta Smotyn?), Tinder a Jarman, cyn trafod marwolaeth a babis.

Hefyd, mae @SpursMel efo SyniaDad newydd - Dim Sgam.

Feb 15, 2017
Feb 15, 2017
1hr 5 min
Y bardd Elis Dafydd yw ein gwestai arbennig wythnos yma! Dewch i wrando am awr arbennig lle mae Elis yn siarad am porn, Helyntion Jos Y Ficar ac actio fel pry cop, cyn i Iwan anghofio bod o ddim yn cael siarad am Cân i Gymru (wps!). Dilynwch Elis ar Twitter - @elisdafydd.

Feb 13, 2017
Feb 13, 2017
1hr 10 min
Iawn babi?
Ma' Podpeth wythnos yma... yma! Y bardd a'r sgolor Elis Dafydd sydd yn ateb eich cwestiynau od Twitter am rom coms, beirdd a'r Cŵin. Mae'r hogiau yn siarad jingles, ac maen nhw efo un i'r segment wythnosol newydd(ish) Munud I Trump. Hefyd, mae @SpursMel efo SyniaDad newydd - Ar Y Traeth.
Cofiwch ddilyn ni ar Facebook/Twitter - Bonws Elis Dafydd ar y ffordd yn fuan.

Feb 6, 2017
Feb 6, 2017
1hr 18 min
Bowlen swper!
Mae Podpeth yma, ac wythnos yma does dim gwestai (eto) ond mae Elin Gruffydd yn ymuno a'r brodyr Pitts i drafod gwylanod, y SuperBowl, boi o'r enw Donald, a'r wyddor seinegol. Ydi adar yn bobl? Be ydi American Football? Pa fand roedd athro mathemateg Hywel yn arfer chwarae i*? Hefyd, mae Dad efo syniad Off The Wall.
Cofiwch ddilyn ni ar Twitter (@Podpeth) a/neu hoffwch ni ar Facebook (@Podpeth). Awgrymwch westeion, gofynnwch gwestiynau (#CacA), cwynwch fod y Podpeth rhy fyr neu rhy hir, neu cysylltwch os da chi isio help i sefydlu podlediad eich hunan.
*Gwres Calonnog

Jan 30, 2017
Jan 30, 2017
1hr 5 min
Helo gyfeillion!
Mae Podpeth yn nol unwaith eto i ddathlu pen-blwydd @SpursMel! Mae'r Elin Gruffydd yn ymuno unwaith eto i gadw trefn ar yr hogiau wrth iddynt recordio hanner podlediad yn lysh gachu, a'r ail-hanner yn hungover, felly llwyth o egni, wedyn dim egni, a gormod o fwydro am Trump, ffilms M Night Shyamalan, a Sir Fon.
Son am fwydro, mae @SpursMel efo syniad o'r enw Mwydro'r Mascots, sydd yn mynd a ni nol ar y ZipLine.
Os ydi ZipWorld isio noddi y Podpeth, croeso i chi gysylltu ar Twitter (@Podpeth).

Jan 25, 2017
Jan 25, 2017
1hr 30 min
Mae ein gwestai arbennig wythnos yma yn Fardd Cenedlaethol Cymru, cyflwynydd Sêr ar HTV Cymru, prif leisydd Treiglad Pherffaith, ac mae o'n cefnogi Spurs. Dewch i wrando ar gyfweliad BONWS lle mae Ifor ap Glyn yn egluro i'r hogia' pethau fel Brexit, Bar Mitzvahs a'r Gynghanedd. Dilynwch Ifor ar Twitter - @iforapglyn
Ymddiheuriadau i:
Asiant Ifor ap Glyn
Arfon Wyn
Donald Trump
Shân Cothi
Cliff Richard
Pobl Cwm-Y-Glo
Pobl Llambed
a Tommo

Jan 23, 2017
Jan 23, 2017
1hr 5 min
Bore dda!
Hostels, caws-fyrddio, bridio pugs - ia wir, mae Podpeth wythnos yma llawn dop o gynnwys pwysig a clyfar yng nghwmni'r brodyr Iwan a Hywel. Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn sydd ar y soffa yn y parlwr efo panad i ateb eich cwestiynau Twitter (@Podpeth). Hefyd, mae @SpursMel efo syniad am raglen - "Dwi'n Meiddio Chdi".
Dwi'n meiddio i chdi wrando! Bonws Ifor ap Glyn ar y ffordd Nos Fercher.

Jan 16, 2017
Jan 16, 2017
1hr 12 min
Beth sydd i fyny?
Mae Elin Gruffydd yn cyd-gyflwyno Podpeth, lle 'da ni'n trafod Titanic, Babooshka, # a Nigel Farage. Hefyd, mae @SpursMel efo syniad llawn twists...
Ein gwestai nesaf (wythnos nesaf) fydd Ifor Ap Glyn (Bardd Cenedlaethol Cymru), felly twitiwch eich cwestiynau atom (@Podpeth). Dim bonws wythnos yma, ond mae peilot SyniaDad - Heddwch Ei Lwch 2016 ar gael i'w wylio ar ein sianel YouTube. Mwy o fideos i ddod yn fuan.

Jan 11, 2017
Jan 11, 2017
1hr 4 min
Mae Miriam Elin Jones yn flogwraig a myfyriwr PhD sydd yn astudio Ffuglen Wyddonol yn y Gymraeg. Mae hi hefyd yn 5'4", ac yn un o sylfaenwyr Y Stamp, cylchgrawn llenyddol newydd. Mae Miriam yn rhagweld y dyfodol, trafod cerddoriaeth a ffasiwn, ac yn dysgu'r hogia am hen fenyw fach Cydweli.

Jan 9, 2017
Jan 9, 2017
1hr 11 min
Shw'mae!
Tydi Hywel ddim yn ffan o ddynwarediad Iwan o Arnold Schwarzenegger. Hefyd, mae'r hogiau yn trio dipyn o ASMR, ac mae Iwan yn trio plygio ei bodlediad newydd, sydd yn swnio'n hollol anaddawol a rybish.
Ein gwestai arbennig wythnos yma ydi Miriam Elin Jones, sydd yn ateb eich cwestiynau Twitter a Facebook (@Podpeth), cyn bron dweud "cont"! Mwy o hanes Miriam (a'r Stamp) i ddod yn fuan mewn pennod Bonws. Hefyd, mae Dad efo syniad newydd, a thro yma, mae o am ffilm Nadoligaidd Cymraeg...

Jan 2, 2017
Jan 2, 2017
1hr 21 min
Blwyddyn Newydd Dda!
Mae'r flwyddyn Dwy-Fil Dwy-Ar-Bumtheg wedi cyrraedd! Yn cyd-cyflwyno mae Elin Gruffydd (MA). Gwrandewch wrth i ni dehongli 2016, dynwared Prince Charles, a darllen y Daily Mail. Hefyd, mae SpursMel yn cynnig syniad anhygoel arall o'r enw "Heddwch Ei Lwch".
